Mae Cynulliad Cymru’n bwriadu adleoli Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad o Gaerdydd i Aberystwyth. Bydd y gweision sifil sy’n dychwelyd yn rhan o waith gweinyddu’r Gronfa Gydgyfeirio £1.3 biliwn – nawdd Amcan Un gynt – oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd i wella seilwaith Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae contract eisoes wedi’i ddyfarnu i gontractwr adeiladu swyddfeydd ar gyfer 700 o weision sifil.
Ar hyn o bryd, mae'r Cynulliad a Chyngor Sir Ceredigion wrthi’n gweithio ar uwchgynllun ar gyfer Aberystwyth, a disgwylir y caiff ei gyhoeddi ar ôl astudiaeth effaith manwerthu.
"Mae’r gweision sifil a fydd yn symud i Aberystwyth yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ynghyd â’u hangen am siopau a chartrefi, yn debygol o fod yn gatalydd a fydd yn dod â newid yn ei sgil a hwb i’r economi lleol yn Aberystwyth" Cyfieithiad o Property Week 26/10/06
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un y mae meddwl mawr ohoni, a chanddi 7500 o fyfyrwyr, sy'n sicrhau bod y dref yn lle bywiog trwy gydol y flwyddyn. Yn ôl The Times Good University Guide 2008, cafodd Prifysgol Cymru, Aberystwyth y sgôr uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr.
"Mae dewis treulio tair blynedd yma’n cynnig cymaint o fanteision. Mae’r bobl, y môr, y golygfeydd a'r awyrgylch oll yn cyfuno i roi profiad penigamp ichi o fywyd yn y brifysgol." Cyfieithiad o The Guardian University Guide 2005
Gyda chymaint o gyrchfannau gwyliau eraill ar arfordir Cymru wedi gweld twf sylweddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae disgwyl i Aberystwyth weld twf tebyg. Mae’r dref yn gyrchfan glan môr poblogaidd yn ogystal â bod yn unigryw oherwydd bod y boblogaeth o fyfyrwyr yn tanategu'r farchnad eiddo. A phan fydd y gweision sifil yn dychwelyd, bydd y sefyllfa’n well fyth.