Mae Rhodfa'r Môr mewn lle trawiadol ar bromenâd enwog Aberystwyth, ac mae Rhifau 7 – 12 yn cael eu hailwampio i ddarparu 53 o fflatiau steilus ag 1, 2 a 3 ystafell wely, y mwyafrif ohonyn nhw â golygfeydd ysblennydd o'r môr. Mae yna hefyd nifer o stablau wedi’u trosi’n dai a sawl bwthyn cwrt ar gael.
Mae’r adeiladau rhestredig, Fictoraidd glan môr hyn yn cynrychioli cyfle prin ac unigryw i sicrhau eiddo mewn lleoliad o'r radd flaenaf mewn tref brifysgol a gwyliau uchel ei pharch.
Mae pob eiddo wedi’i ailwampio mewn modd apelgar, llawn dychymyg i safon uchel, gan roi sylw gofalus i'r manylion, ac yn cynnwys ffitiadau cyfoes ochr yn ochr â nodweddion hanesyddol.
Bydd y fflatiau’n apelio at berchnogion preswyl a buddsoddwyr fel ei gilydd.
“Mae bywyd diwylliannol a gastronomegol Aberystwyth yn hwyliog ac yn aros felly trwy gydol y flwyddyn. Mae'n ffynnu ar fyfyrwyr yn ystod y tymor, ac ymwelwyr yn yr haf. Yn ogystal ag amrywiaeth o dafarndai a bwytai, mae’r dref yn lle da i fynd i wrando ar gerddoriaeth ac mae'n ganolfan fywiog ar gyfer theatr a sinemâu."
Cyfieithiad o Britain: The Rough Guide